Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Mawrth 2021
Amser:
09.03 -
12.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11050
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Lee Bowen, Long COVID Wales Dr Ian Frayling, Long COVID Wales Leanne Lewis, Long COVID Wales Georgia Walby, Long COVID Wales Yr Athro Daniel Altmann, Imperial College, Llundain Dr Elaine Maxwell, Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd Pippa Cotterill, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith Dai Davies, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol Calum Higgins, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Dr Mair Hopkin, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cyhoeddodd y Cadeirydd fod ganddo gefndir proffesiynol fel Meddyg Teulu a'i fod yn aelod o Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Long COVID Wales
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Long COVID Wales.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Daniel Altmann, Athro ym maes Imiwnoleg - Coleg Imperial Llundain a Dr Elaine Maxwell, Arweinydd Cynnwys - Canolfan Ymgysylltu a Lledaenu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.
4 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda chyrff proffesiynol
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr cyrff proffesiynol.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch COVID hir
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch COVID hir
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.3 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
5.3 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer y cyfarfod ar 17 Mawrth
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw ac o’r cyfarfod ar 17 Mawrth.
7 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod yr adroddiad drafft
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar rai diwygiadau a fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
9 Adroddiad gwaddol: Trafod yr adroddiad drafft
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar rai diwygiadau a fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.